Sgitsoffrenia: 35 ffaith

1. Y mae’r term ‘sgitsoffrenia’ yn hanu o’r gair Groeg am ‘meddwl toredig’. Dyfeiswyd y term ‘sgitsoffrenia’ gan Eugen Bleuler ym 1908.

2. Adnabyddwyd ‘sgitsoffrenia’ yn wreiddiol fel ‘dementia praecox’ (orfwylltra bywyd cynnar). Dyfeiswyd y term ‘dementia praecox’ ym 1896 gan Emil Kraepelin, a oedd yn seiciatregydd o’r Almaen. Ym 1919, cyhoeddodd Emil Kraepelin set o nodweddion clinigol y cyflwr, sydd o hyd yn bennaf dilys heddiw.

3. Nid yw sgitsoffrenia yn cynnwys ‘meddwl hollt’ gymaint â chlywed lleisiau drwg neu dda sydd yn anghlywadwy i bobl eraill. Yn ôl Aidan Shingler, sgitsoffrenig a chynhaliodd arddangosfa o’i waith dau-a thri- dimensiwn yn Eglwys Gadeiriol Dyrham yn Awst 1997, y mae sgitsoffrenia yn cynnwys ‘gwrthdrawiad ysbrydol’.

4. Y mae symptomau cadarnhaol sgitsoffrenia yn cynnwys clywed lleisiau (rhithiau clywedol) a gweld gweledigaethau (rhithweledigaethau). Gall hunan-dwyll peri i’r sgitsoffrenig gredu mai proffwyd ydy e/hi, neu berson o bwysigrwydd ysbrydol/ crefyddol. Gall hunan-dwyll peri i’r sgitsoffrenig gredu ei fod e’n (ei bod hi’n) meddiannu gwybodaeth arbennig, neu fod e/hi wedi bod yn ddrwg iawn, neu wedi cael cam wrth y ‘system’, neu fod perthnasau neu estroniaid yn ymosod arno fe/arni hi neu wenwyno ef/hi.

5. Y mae symptomau negyddol sgitsoffrenia yn cynnwys difaterwch dwfn, colli diddordeb, encilio sylweddol, gostyngiad mewn cyfathreb llafar, diffyg mynd, diffyg diddordeb mewn gwaith, ffrindiau, teulu neu yrfa, gostyngiad mewn hunan-barch sy’n dilyn at esgeuluso’r person, a cholli hwyl gweithgareddau a oedd o’r blaen yn rhoi pleser.

6. Y mae sgitsoffrenia yn cyfrif am bron 10% o holl gyllideb y GIG i gleifion mewn ysbyty, mwy nag unrhyw salwch arall. Mae gan cymaint â 20% o gleifion ysbyty GIG y DU diagnosis o
sgitsoffrenia.

7. Y mae sgil-effeithiau annymunol moddion gwrthseicotig yn cynnwys :

a) effeithiau extrapyramidal (anystwythder a chrynu fel y geid gyda salwch Parkinson). Y mae hyn yn digwydd i oddeutu un ran o dair o gleifion, a gellir eu trin gyda chyffuriau sydd yn gweithio yn erbyn salwch Parkinson. (e.e benzhexol, benztropine, orphenadrine a procyclidine)
b) adweithiau difrifol o ddystonigrwydd (cychwyn sydyn o anystwythder, weithiau gyda’r llygaid yn rolio)
c) akathisia (aflonyddwch nerfau gweithredol)
d) tardive dyskinesia (symudiadau afreolus sydd yn parhau, ac ar y ddechrau yn cael effaith ar y wyneb, gwefusau a thafod. Y mae tardive dyskinesia yn effeithio hyd at 20% o gleifion dros y tymor hir, gyda 10% yn cael eu effeithio yn ddifrifol.
e) effeithiau mysgarinig (ceg sych, golwg aneglur, rhwymedd, anhawster â wneud dýr, curiadau cyflym y galon)
f) effeithiau gwrthalpha-adrenergig (pendro wrth sefyll yn gyflym)
g) effeithiau gwrth-histaminig (cysgadrwydd)

8. Dyw naw allan o ddeg pobl gyda sgitsoffrenia ddim yn brifo eu hunain na phobl eraill yn gorfforol.

9. Mae oddeutu 40 miliwn o bobl sgitsoffrenig yn y byd.

10. Mae oddeutu 250,000 o bobl sgitsoffrenig yn y DU.

11. Mae sgitsoffrenia gan 1 person mewn 100.

12. Mae gan 1 person mewn 200 seicosis ar unrhyw adeg benodol.

13. Mae 10% o bobl sgitsoffrenig yn lladd eu hunain.

14. Yn y llyfr “Accepting Voices” (gol. Marius Romme a Sondra Escher, MIND, 1994) mae ‘na dri chyfnod mewn profiad sgitsoffrenig o glywed llais :

a) y cyfnod dychrynu
b) y cyfnod trefnu
c) y cyfnod sefydlogi

15. Mae rhai bobl sgitsoffrenig yn credu ein bod ni i gyd wedi byw o’r blaen, ac mai ffigurau hanesyddol bwysig oeddynt mewn bywyd neu bywydau blaenorol. Yn y llyfr “The Divided Self” gan R D Laing, mae person sgitsoffrenig yn credu mai Napoleon oedd e mewn bywyd blaenorol. Yn y llyfr “Accepting Voices” (gol. Marius Romme a Sondra Escher) mae person sgitsoffrenig yn credu mai Mussolini oedd e mewn bywyd blaenorol. Mae awdur y testun hwn yn credu’n sicr ei fod wedi byw dairgwaith o’r blaen mewn termau o waed, cig ac asgwrn. Roedd e’n byw fel Judas Iscariot, fel Cathar, ac fel James I o Loegr (James VI o’r Alban). Fe’i labelwyd yn sgitsoffrenig ym 1983 gan seiciatregyddion.

16. Mae sgitsoffrenigion yn ganwaith tebygach i niweidio’u hunain yn gorfforol nag i niweidio unrhyw berson arall.

17. Am bob person sy’n cael ei ladd gan rywun a chafwyd yn sgitsoffrenig, mae gyrrwyr meddw yn lladd oddeutu pedair ar hugain o bobl.

18. Yn y Phaedrus, mae Plato yn galw gwallgofrwydd yn “anrheg dwyfol, a ffynhonell y prif gwynfydau â chaniateir i ddyn”.

19. Yn Ymddiddanion Plato, gwahaniaethir rhwng bedwar math o wallgofrwydd : gwallgofrwydd darogan o achos Apollo; gwallgofrwydd defodol o achos Dionysus; gwallgofrwydd mydryddol y rhai wedi’u feddiannu gan yr Awenau; ac yn olaf, gwallgofrwydd erotig o achos Eros ac Aphrodite.

20. Ymddengys fod, mewn mwyafrif o achosion, roedd sgitsoffrenigion wedi’u anafu’n rhywiol, yn emosiynol a/neu’n gorfforol ar adeg ffurfiannol yn eu bywydau. Mewn lleiafrif o achosion, ymddengys fod sgitsoffrenia wedi’i achosi gan gamdriniaeth difrifol o gyffurion.

21. Mae Indiaid Gogledd America yn credu bod pwysigrwydd crefyddol a/neu ysbrydol gan sgitsoffrenigion fel wrandawyr lleisiau.

22. Mae seiciatregyddion traddodiadol y gorllewin yn ystyried sgitsoffrenia yn anghydbwysedd biocemegol o’r ymennydd sydd yn cynnwys gormod o actifedd dopamin yn yr ymennydd ei hunan.

23. Y mae gwrandawyr lleisiau mewn hanes a’r presennol yn cynnwys y proffwyd Amos, Eseciel, Eseia, Moses, Mohamed, Sant Ioan y Groes, Teresa Santes Afila, Joan o Arc, Swedenborg, Syr Winston Churchill, Syr Anthony Hopkins a Zoë Wanamaker.

24. Y mae pobl a’u cafwyd yn sgitsoffrenig gan seiciatregyddion yn yr ugeinfed ganrif yn cynnwys Louis Wain (y dyn a thynnodd lluniau o gathod) Syd Barrett (o Pink Floyd) Peter Green (o Fleetwood Mac) David Helfgott (pianydd clasurol o Awstralia a phortreadwyd gan y ffilm ‘Shine’ ym 1997) a Brian Wilson (Beach Boys).

25. Mae oddeutu un ran o dri o bobl di-gartref mewn dinasoedd yn y DU yn dioddef o sgitsoffrenia.

26. Mae gan 2% o bobl mewn carchar yn y DU rhyw ‘salwch seicotig’.

27. Mae ‘na 40,000 o sgitsoffrenigion di-gartref yn y DU.

28. Mae 1,200 sgitsoffrenigion yn y DU bob blwyddyn yn lladd eu hunain.

29. Mae un person mewn dri yn cael llwyr gwellhad o sgitsoffrenia. Roedd y cyfradd gwellhad ym 1998 yr un ag yr oedd ym 1938.

30. Mae nifer o astudiaethau wedi darganfod bod hanes o anhawsterau genedigaeth neu cymhlethdodau obstetrig yn fwy cyffredin ymhlith bobl gyda sgitsoffrenia. Y perygl cyffredinol o fod yn sgitsoffrenig yw 1%. Mae’r posibiliad o berson yn datblygu sgitsoffrenia yn cynnydd pe bai rhywun â’r cyflwr yn y teulu yn barod. Y perygl o gael sgitsoffrenia mewn gefaill unwy yw 46%. Y perygl o gael sgitsoffrenia mewn gefaill deuwy yw 16%. Os mae sgitsoffrenia gan y rhiant, mae perygl o 14% gan y plentyn o gael ei labelu yn sgitsoffrenig gan seiciatregyddion.

31. Yn “The Politics of Experience” (Penguin 1990) gan R D Laing, y mae Laing yn ystyried ‘gwallgofrwydd’ fel ‘poenau geni ymwybyddiaeth uwch’.

32. Yng nghyflwyniad David Cooper i “Madness and Civilisation” gan Michel Foucault, mae Cooper yn ysgrifennu bod gwallgofrwydd, yn ein oes ni, wedi dod yn ryw fath o wirionedd coll.

33. “Essays on the Psychiatric Dehumanization of Man” yw is-deitl llyfr Thomas Szasz “Ideology and Insanity” (Syracuse University Press, 1991). I Szasz, myth yw ‘salwch’ meddwl.

34. Yn llyfr Thomas Szasz “The Manufacture of Madness”, mae seiciatreg yn cynrychioli i wyddoniaeth yr ugeinfed ganrif beth oedd y Chwil-lys i Gatholigrwydd yr ail ganrif ar bymtheg. Amddiffynnwyd uniongrededd Catholig gan y Chwil-lys. Yn yr un modd, mae seiciatreg yn amddiffyn uniongrededd gwyddonol. I Szasz, seiciatregyddion traddodiadol y gorllewin yw ‘thought- police’ uniongrededd gwyddonol .

35. Mae 10% – 15% o’r poblogaeth cyffredinol yn clywed neu wedi clywed llais dros cyfnod hir. Gall y llais neu lleisiau eu cychwyn gan ddigwyddiad trawmatig, megis brofedigaeth, damwain, salwch neu ryw ddigwyddiad pwysig arall. Mae 1% o’r poblogaeth cyffredinol yn sgitsoffrenig.

Am wybodaeth manylach ynglun â chlywed lleisiau, cymeradwyir “Accepting Voices” (gol. Marius Romme a Sondra Escher, MIND, 1994). Cymeradwyir hefyd “The Voice Inside : A Practical Guide to Coping With Voices” (Paul Baker, Hearing Voices Network, 1995) a “Working with Voices : Victim to Victor” (Ron Coleman a Mike Smith, Handsell Publications, 1997).

Leave a Reply

You must be logged in to post a comment.